Lansio Brwydr y Bandiau 2017

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017, sydd unwaith eto’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng Maes B a Radio Cymru.

Yn y gorffennol, roedd Radio Cymru a Maes B yn trefnu Brwydr y Bandiau ar wahân, ond unwyd y cystadlaethau yn 2015, a’r un fydd y drefn eto yn Ynys Môn yn Awst 2017.

Dros y blynyddoedd mae Brwydr y Bandiau wedi helpu annog bandiau ifanc i ffurfio, neu fireinio eu crefft.

Teg dweud bod llwyddiant gyrfa’r bandiau sydd wedi dod i frig y gystadleuaeth dros y blynyddoedd wedi amrywio ar ôl iddyn nhw ennill. Ond, does dim amheuaeth fod y profiad wedi bod yn un gwerth chweil i bawb sy’n cystadlu ac mae nifer o aelodau wedi mynd ymlaen i wneud eu marc yn y sin gyda phrosiectau newydd.

Chroma ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth yn Y Fenni yn 2016, gan guro bron i ugain o fandiau yn y broses.

Mae’r band wedi cadw’n brysur ers y gystadleuaeth yn gigio ac yn recordio, ac fe fyddan nhw’n rhyddhau eu sengl newydd, ‘Claddu 2016’ yn hwyrach y mis hwn.

Y dyddiad cau ar gyfer Brwyd y Bandiau 2017 ydy dydd Gwener 3 Chwefror, a bydd cyfres o rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal o amgylch Cymru yn ystod y gwanwyn.

Bydd y rownd derfynol yn digwydd ar lwyfan perfformio’r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ar 9 Awst y flwyddyn nesaf.

Ac yn ôl yr arfer mae gwobrau hael i enillwyd y gystadleuaeth, gan gynnwys gwahoddiad i berfformio set ym Maes B; cyfle i berfformio sesiwn ar Radio Cymru; ymddangosiad ar raglen Ochr 1, S4C; ac erthygl mewn rhyw gylchgrawn ceiniog a dima’ o’r enw Y Selar.

Os nad ydy hynny’n ddigon, bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, gyda gwobr arall o £100 ar gael i’r cerddor gorau yn y gystadleuaeth.

Nid dim ond y grŵp buddugol fydd ar eu hennill cofiwch, gan bod pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol cael bod yn rhan o gynllun mentora a drefnir gan Radio Cymru, a fydd yn gyfle i’r cerddorion ifanc gael cyngor a chymorth gan rai sy’n amlwg ac sydd â phrofiad o weithio yn y sin.

Felly, os ydach chi’n gerddor neu’n fand newydd, neu ffansi ffurfio band o’r newydd ar gyfer y gystadleuaeth, mae mwy o wybodaeth a manylion sut i gofrestru ar wefan Maes B.