EP Yr Oria ar y ffordd

Mae Yr Oria wedi cadarnhau wrth Y Selar eu bod yn gobeithio rhyddhau eu EP cyntaf fis Mehefin.

Ffurfiodd y pedwarawd o Flaenau Ffestiniog yn ystod ail hanner 2016, ac maent yn cynnwys Garry o Jambyls a Gerwyn Murray, basydd Swnâmi, ymysg yr aelodau.

Ddechrau’r mis fe wnaethon nhw ryddhau eu trydydd sengl, ‘Cyffur’ ar eu safle Soundcloud – trac sy’n dilyn dwy sengl y gwnaethon nhw ryddhau ddiwedd 2016 sef ‘Gelynion’ a ryddhawyd ar ddechrau mis Hydref, a’r hynod fachog ‘Cyfoeth Budr’ a ryddhawyd ddiwedd yr un mis.

Yn ôl canwr Yr Oria, Garry Hughes, mae’r grŵp nhw wedi bod yn cael trafferth trefnu amser cyfleus i’r holl aelodau ymweld â’r stiwdio ond bellach yn agos iawn at fod yn barod i ryddhau’r EP gyda dim ond un cân ar ôl i’w recordio.

Bydd 5 trac ar y casgliad byr a fydd yn rhannu enw’r band, ac sydd wedi’i recordio dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd Rich Roberts yn stiwdio Fermas ym Mhenrhyndeudraeth.

Yn ôl Garry, maen nhw wedi gwneud ymdrech i atgyfodi ychydig o sŵn yr 80au ar ganeuon yr EP, “gan roi pwyslais ar y corws a reverb pedals ar y gitars.” Yr un ydy’r bwriad gyda’r defnydd o haenau ysgafn o synths ar y traciau maen nhw wedi rhyddhau eisoes yn ôl y canwr.

Mae’r grŵp yn gobeithio bydd dyddiad rhyddhau digidol cyn diwedd mis Mehefin.