Cyfweliad: Troi tudalennau llenyddiaeth Cpt Smith

Mae’r Selar yn falch iawn o lwyddiant cynllun Senglau’r Selar, sydd wedi rhyddhau 11 o senglau cyntaf grwpiau addawol dros y deunaw mis diwethaf.

Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n fwy balch na dim arall ydy gweld un o artistiaid y cynllun yn cael eu bachu gan label, ac yn rhyddhau mwy o gynnyrch.

Rydan ni wedi gweld Estrons yn cael tipyn o lwyddiant gyda chynnyrch newydd ers iddyn nhw ryddhau ‘C-C-Cariad’ fel Sengl Selar yn Nhachwedd 2014, ac yn disgwyl tipyn mwy ganddyn nhw.

Mae Y Trŵbz wedi rhyddhau albwm gyda Copa, Ysgol Sul yn rhyddhau EP gydag I Ka Ching, Terfysg yn rhyddhau EP ar Copa a Patrobas yn rhyddhau EP gyda Rasal. Rydan ni’n weddol hyderus na fydd hi’n hir cyn i rai o artistiaid eraill y Clwb ryddhau cynnyrch newydd. Ac mae un arall wedi’i hychwanegu at y rhestr heddiw, wrth i Cpt Smith ryddhau eu dilyniant i’r Sengl Selar wych, ‘Resbiradaeth’, sef y sengl ‘Llenyddiaeth’ ar label I Ka Ching.

Yr wythnos yma llwyddodd Y Selar i gael gair cyflym â chanwr a basydd Cpt Smith, Ioan Hazell, ynglŷn â’r sengl newydd a chynlluniau’r grŵp i ryddhau mwy o gynnyrch. Y man cychwyn amlwg oedd beth allwn ni ddisgwyl gyda ‘Llenyddiaeth’?

“Mae’n gân sydd yn gymysgedd o bob math o ddylanwadau a dweud y gwir” eglurodd Ioan.

“Dwi’n credu, neu’n gobeithio ei fod yn adlewyrchu twf a datblygiad y band dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Blwyddyn o brofiad

Cwta flwyddyn sydd mewn gwirionedd ers i Cpt Smith ddechrau dod i sylw pobl. Roedd Y Selar wedi clywed si am grŵp newydd o’r Gorllewin oedd yn dwyn cymariaethau ag Y Ffug cynnar, cyn clywed cwpl o draciau ar Soundcloud tua diwedd Mawrth 2015. Erbyn dechrau Mai, roedd eu perfformiad trawiadol yn gig Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach wedi selio ein penderfyniad i estyn cynnig i ryddhau cân gyda Chlwb Senglau’r Selar.

Nod y Clwb Senglau ydy cynnig cyfle cyntaf i artist addawol fynd i stiwdio broffesiynol i recordio, ac yna rhyddhau trac fydd yn eu rhoi nhw yn y ffenest siop. I ba raddau mae Ioan yn credu i’r Clwb gyflawni hynny felly? Oedd rhyddhau ‘Resbiradaeth’ yn cynnig ffenest siop i Cpt Smith?

“Do, yn hollol. Mae’r amser radio ac ati pob tro’n rhywbeth da i’r band. Roedd recordio yn stiwdio Sain hefyd yn brofiad addysgiadol iawn i ni – yn fwy o safbwynt dysgu am ein gilydd na dim arall.”

Mwy i ddod

Er y profiad da yn stiwdio Sain yn Llandwrog, mae’r grŵp wedi aros yn dipyn mwy lleol i recordio ‘Llenyddiaeth’…

“Mi wnaethom ni recordio yn StudiOws yn Hwlffordd, gydag Owain Fleetwood Jenkins yn cynhyrchu” meddai Ioan.

“Mae recordio fyn’na bob tro’n brofiad da – rydyn ni i gyd yn hoff iawn o Owain ac mae’n gwybod sut i ddelio ’da ni.”

Label I Ka Ching sy’n rhyddhau’r sengl newydd, a bydd y label yn dathlu pum mlynedd o fodolaeth yr haf yma. Maen nhw dros yr amser yna wedi sefydlu eu hunain fel un o’r label pwysicaf yng Nghymru gyda nifer o’r bandiau mwyaf – Sŵnami, Candelas, Yr Eira – yn rhyddhau eu cynnyrch gyda nhw bellach. Ac mae Ioan yn llawn canmoliaeth i’r label – “mae I Ka Ching wedi bod yn anhygoel, mae’n bleser llwyr i weithio gyda nhw.”

Mae’n siŵr bod y label yn falch iawn i fod yn gweithio gyda’r grŵp ifanc cyffrous yma hefyd – doedd ond angen bod yn dyst i ymateb cynulleidfa Gwobau’r Selar yn ystod set Cpt Smith yn gynharach eleni i ddeall bod rhywbeth arbennig iawn am rhain. Felly beth nesaf i Cpt Smith, allwn ni ddisgwyl rhyddhau rhywbeth mwy swmpus na sengl yn y dyfodol agos?

“Rydyn ni’n adeiladu’r set ar hyn o bryd er mwyn i ni gael dewis y goreuon yn ein barn ni fel petai” eglura Ioan.

“Felly rwy’n gobeithio bydd albwm neu E.P ar y ffordd yn fuan -rydyn ni’n agosáu ati.”

Mae ‘Llenyddiaeth’ ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol nawr, yn ogystal â sengl gyntaf Cpt Smith, ‘Resbiradaeth’, a ryddhawyd fel rhan o gynllun Senglau’r Selar. Bydd sengl arall gan y grŵp, ‘Bad Taste’, yn cael ei rhyddhau mewn mis ac mae ar gael i’w rhag archebu.Troi tudalennau llenyddiaeth Cpt Smith

Mae ‘Llenyddiaeth’ ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol nawr, yn ogystal â sengl gyntaf Cpt Smith, ‘Resbiradaeth’, a ryddhawyd fel rhan o gynllun Senglau’r Selar. Bydd sengl arall gan y grŵp, ‘Bad Taste’, yn cael ei rhyddhau mewn mis ac mae ar gael i’w rhag archebu.

cpt smith - llenyddiaeth