Cerddoriaeth i Hybu’r Chwyldro?

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal digwyddiad difyr iawn ym mis Ionawr dan y teitl ‘Hybu’r Chwyldro Trwy’r Sin Roc Gymraeg’.

Bydd y drafodaeth, sy’n cynnwys cyfraniadau gan Griff Lynch, Toni Schiavone, Rhys Mwyn a Pat Morgan, yn holi os oes perthynas rhwng cerddoriaeth Gymraeg a gwleidyddiaeth erbyn hyn.

Ar y dudalen Facebook i hyrwyddo’r drafodaeth mae’r cwestiynau yma’n cael eu gofyn:

– Sut mae’r berthynas rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r sin gerddoriaeth Gymraeg wedi esblygu dros y degawday diwethaf?

– Beth yw’r berthynas rhwng y sin a gwleidyddiaeth erbyn hyn?

– A yw’r sin yn dal i herio a chodi cwestiynau am y Gymru sydd ohoni?

– Beth yw lle Cymdeithas yr Iaith yn hyn oll?

Mae’r drafodaeth yn cael ei chynnal yn adeilad Merched y Wawr yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 10 Ionawr rhwng 13:00 a 17:00.