Search site


Y Cyfoes yn ymuno â Slot Selar Caerfyrddin

14/06/2011 21:38

Newyddion da o lawenydd mawr! Mae Y Cyfoes wedi eu hychwanegu i linep cymal Caerfyrddin o daith Slor Selar.

Y grŵp ifanc lleol fydd yn agor y gig yng nghanolfan wych newydd The Parrot ar Heol Y Brenin yn y dref, ac rydan ni'n edrych ymlaen yn fawr i'w croesawu nhw i deulu Slot Selar.

Bydd band arall o ardal Caerfyrddin yn perfformio ar y daith wrth gwrs, sef Trwbador. Os nac ydach chi'n gyfarwydd â cherddoraeth Trwbador, yna cliciwch play ar y fideo isod i glywed y gân wych 'Daw'r Nos, Daw'r Haf' o'r EP It Snowed a lot this Year. Gwrandwch allan yn arbennig am waith chwibannu hyfryd Owain!