Search site


Tocynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar werth

10/02/2011 14:33

 

Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi bod tocynnau'r ŵyl eleni'n mynd ar werth ddydd Mawrth nesaf, sef 15 Chwefror.

Mae'r ŵyl, a sefydlwyd yn 2003, wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn wedi'i sefydlu fel un o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru - os nad y mwyaf poblogaidd.

Cynhelir yr ŵyl eleni ar benwythnos 19, 20 a 21 o Awst a hynny, fel arfer, ym Mannau Brycheiniog.

Er nad yw'r trefnwyr wedi cyhoeddi pwy sy'n chwarae yn yr ŵyl eto, mae disgwyl i docynnau werthu'n gyflym. Bydd manylion llawn ynglŷn â sut i brynu tocynnau yn ymddangos ar eu gwefan, fan hyn.