Search site


Taith Tree of Wolves

09/10/2013 22:16

Mae'r band Cymreig newydd Tree of Wolves yn mynd ar daith gyda llu o westeion adnabyddus yn eu cefnogi ar y ffordd. 

Bydd y daith i hyrwyddo yn agor yn y Cŵps yn Aberystwyth nos fory (Iau 10 Hydref) cyn ymweld â 5 lleoliad arall yng Nghymru a Lloegr. 

Yn cefnogi yn y gig cyntaf fydd Mellt, Tymbal ac Alex Dingley. 

Ymysg y rhai eraill sy'n cefnogi'r grŵp o ardal Caerfyrddin yn y gigs mae Mr Huw, Cut Ribbons, When Elephants Attack, DJ Llio Non, Houdini Dax, The Lash, Chambles, John Lawrence a Sebon DJ's.

Recordiwyd sengl gyntaf y grŵp, Icy Water, yn stiwdio Nant y Benglog John Lawrence ac mae ar gael am ddim ar Bandcamp y grŵp!

Dyddiadau'r Daith

10/10/13 - Cŵps, Aberystwyth

11/10/13 - Clwb y Legion, Llanrwst

25/10/13 - Clwb Ifor Bach, Caerdydd

26/10/13 - Le Pub, Casnewydd

16/11/13 - Dublin Castle, Camden, Llundain

08/12/13 - The Fleece, Bryste