Search site


Slot Selar @ Steddfod yr Urdd Meirionnydd

15/05/2014 21:57

Bydd gwledd gerddorol i'r clustiau i'r rhai ohonoch chi sy'n mentro am faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ddiwedd y mis ... a does dim rhaid i chi fynd yn agos at y pafiliwn i'w glywed.

Am y bedwaredd flwyddyn mae Y Selar yn falch iawn i gydweithio â'r Urdd i lwyfannu rhai o artistiaid cyfoes mwyaf cyffrous y sin ar lwyfan perfformio'r Eisteddfod. 

Bydd Slot Selar yn digwydd rhwng 1 a 2 bob dydd ac rydan ni wedi penderfynu dewis rhai o'r artistiaid rydan ni'n disgwyl i greu enw go iawn i'w hunain dros y flwyddyn nesaf i berfformio. 

Dyma'r lein-yp yn llawn i chi felly:

Llun (26 Mai) - Fleur de Lys

Mawrth (27 Mai) - Y Cledrau

Mercher (28 Mai) - Y Ffug

Iau (29 Mai) - Y Rhacs

Gwener (30 Mai) - Kizzy Crawford

Sadwrn (31 Mai) - Y Reu