Search site


Sengl Y Trŵbz allan rŵan

10/12/2014 09:14

Mae sengl ddiweddaraf Clwb Senglau'r Selar - 'Tyrd yn Ôl' gan Y Trŵbz - allan i'w lawr lwytho rŵan. 

Sengl y grŵp cyffrous o Uwch Aled ydy ail sengl ein clwb arbennig fydd yn rhyddhau sengl gyntaf artist bob mis. 

Fe ddaeth Y Trŵbz i amlygrwydd gyntaf wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau C2 ym mis Mai eleni, ac mae rhyddhau eu sengl cyntaf yn coroni blwyddyn gofiadwy i'r grŵp ifanc. 

Gallwch ddarllen mwy am y sengl yn y stori fach yma ar Golwg360

Ac yn bwysicach oll, dyma ddolen i'r lle y gallwch lawr lwytho'r sengl ar iTunes.