Search site


Rhyddhau EP cyntaf Carcharorion

08/12/2014 14:06

Mae EP cyntaf y ddeuawd electroneg difyr, Carcharorion, allan ar label Peski heddiw (8/12/14).

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Carcharorion wedi creu cryn argraff gyda'u sampyls a synau electro rhyfedd a hyfryd. 

Rhyddhawyd eu cynnyrch cyntaf yn ffurfiol gan Peski ar ffurf y trac 'Beth yw'r Haf' ar record aml-gyfrannog Cam 1 yn gynharach eleni. 

Bydd y newyddion bod yr EP newydd, Hiraeth, yn cael ei ryddhau cyn y Nadolig yn fêl ar fysedd eu ffans niferus. 

Mae'r EP yn cynnwys 5 trac, ac yn eu mysg mae samplau o Siân James, Plu, Meredydd Evans, Cayo Evans a Gerallt Lloyd Owen, a fu farw'n gynharach eleni. 

Dyma i chi flas o'r EP trwy gwrteisi ein ffrindiau yn Peski: