Search site


Rhestr fer Artist Unigol Gorau

03/02/2014 21:14

Mae'r Selar wedi cyhoeddi rhestr fer ail gategori Gwobrau'r Selar eleni, sef Artist Unigol Gorau. 

 
A'r merched sydd wedi rheoli'r categori yma eleni, gyda Kizzy Crawford, Casi Wyn a Georgia Ruth Williams yn dod i frig y bleidlais gyhoeddus. 
 
Mae'r dair wedi cael blwyddyn i'w chofio gyda Kizzy a Casi yn rhyddhau eu EPs cyntaf, Temporary Zone ac 1, tra bod Georgia wedi cipio'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yng Ngŵyl Sŵn.
 
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yn Noson Wobrau'r Selar yn Aberystwyth ar 15 Chwefror - tocynnau ar werth rŵan am ddim ond £8 ar Sadwrn.com.