Search site


Race Horses i gefnogi Kaizer Chiefs

28/11/2012 13:50

Newyddion cyffrous iawn wedi torri o dŷ'r Race Horses dros nos. 

Mae'r grŵp, ddaeth i amlygrwydd yn wreiddiol dan yr enw Radio Luxembourg, wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cefnogi neb llai na'r Kaizer Chiefs ar daith ym mis Chwefror 2013. 

Byddan nhw'n chwarae 7 o gigs efo un o grwpiau mwyaf y sin Brydeinig rhwng 11 a 19 o Chwefror. 

Dyma lun o'r drymiwr Gwion Llewelyn a Mali Llywelyn o'r grŵp yn edrych yn falch iawn o'u hunain yn dal rhestr lleoliadau'r daith: