Search site


Pleidlais Gwobrau'r Selar ar agor

17/12/2013 21:19

Wel, mae'r aros ar ben ac mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau'r Selar bellach ar agor! 

Fel y gwyddoch, mae panel o 10 wedi llunio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais gyhoeddus eleni ac mae modd i chi ddewis un ym mhob categori ar dudalen Facebook Y Selar

Os nad ydach chi ar Facebook, yna peidiwch poeni dim. Mae modd i chi fwrw eich pleidlais trwy yrru eich dewisiadau, un o bob categori, atom - yselar@live.co.uk. Mae'r rhestrau hir i'w gweld yma

Cofiwch, dim ond unwaith fydd modd i chi bleidleisio felly dewiswch yn ofalus!