Search site


Lansio gigs O'r Selar...

16/07/2014 20:53

Fis Medi bydd Y Selar yn lansio cyfres o gigs rheolaidd yn Aberystwyth. 

Bydd gigs O'r Selar... yn cael ei lansio ym mar Canolfan y Celfyddydau ar nos Wener 26 Medi, gyda noson o roc budr yng nghwmni Candelas, Castro ac Y Gwyryf. 

Bydd gigs eraill yn dilyn ar 31 Hydref a 27 Tachwedd, a'r bwriad ydy cynnal y gigs yn fisol.

Mae'r prosiect yn un cyffrous hefyd gan fod Y Selar yn cynnig cynllun mentora i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn hyrwyddo gigs. Byddwn yn cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith Cymraeg ac UMCA i wneud hynny. 

Bydd mwy o wybodaeth am y gig cyntaf ar y digwyddiad Facebook, a bydd manylion y gigs eraill, gan gynnwys gig arbennig dathlu 10 mlynedd o'r Selar, yn dilyn yn fuan.