I Ka Ching yn lansio prosiect Dydd Miwsig Cymru

Mae label Recordiau I Ka Ching wedi cyhoeddi eu bod wedi dechrau prosiect fydd yn eu gweld yn recordio, a ffilmio fideos cerddoriaeth byw ar y cyd â Dydd Miwsig Cymru.

Maent wedi cychwyn ar y prosiect wythnos diwethaf, gyda SSP Media yn ffilmio. Mae’r ffilmio a’r recordio’n cael ei wneud yn stiwdio Drwm, Llanllyfni, sef stiwdio Osian Huw Williams ac Ifan Emlyn Jones o Candelas.

Ac mae’r cyntaf o’r fideos bellach wedi’i rhyddhau – gwyliwch fideo ‘Peiriant Ateb’ gan Y Cledrau isod. Mae’r fideo wedi’i gyhoeddi i gydfynd ag albwm cyntaf y band sydd allan ers ddydd Gwener.

Yr ail fideo o’r prosiect fydd fideo byw Alys Williams a’r Band, ac mae disgwyl i hwnnw gael ei ryddhau ganol mis Rhagfyr.

Meddai’r label bod mwy o fideos ar y ffordd ganddynt yn 2018.