Search site


Gig O'r Selar nos Wener

23/09/2014 20:18

Candelas, Castro ac Y Gwyryf i chwarae yn y cyntaf o gyfres o gigs yn Aberystwyth

Mae cyfres gigs O'r Selar yn Aberystwyth yn dechrau ym Mar Canolfan y Celfyddydau nos Wener yma, 26 Medi. 

Enillwyr mawr Gwobrau'r Selar nôl ym mis Chwefror, Candelas, fydd y prif atyniad nos Wener - cipiodd y grŵp o Lanuwchllyn deitlau 'Cân Orau', 'Record Hir Orau' a 'Band Gorau' y gwobrau. 

Hefyd yn perfformio mae'r grŵp ifanc gwych o Landeilo,  Castro,  a ryddhaodd eu EP cyntaf ar label Fflach yn gynharach eleni. 

Yn agor y noson fydd y grŵp o fyfyrwyr Aber, y Gwyryf, a bydd DJ preswyl gigs O'r Selar, Sgilti, yn swyno gyda mixes gwych rhwng y bandiau. 

A hithau'n Wythnos y Glas yn Aberystwyth, mae disgwyn cynulleidfa dda i'r gig felly mae'n werth prynu tocyn ymlaen llaw o wefan Canolfan y Celfyddydau neu o Swyddfa UMCA i fod yn saff. 

Bydd ail gig O'r Selar yn cael ei gynnal ar nos Wener 31 Hydref, a'r gig canynol ar nos Iau 27 Tachwedd - rhowch y dyddiadau yn eich dyddiaduron reit handi!

Yn y cyfamser, dyma mix hyrwyddo arbennig ar gyfer y noson gan Sgilti: