Search site


Ffurflen bleidleisio Gwobrau'r Selar

07/12/2012 21:17

Dyma ni, y newyddion rydach chi oll wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano...mae ffurflen bleidleisio Gwobrau'r Selar 2012 bellach AR AGOR!

Mae modd i chi bleidleisio gan ddefnyddio eich cyfrif Facebook trwy glicio yma

Os nad ydach chi ar Facebook, wel peidiwch a phoeni - mae croeso i chi anfon eich dewisiadau i ni ar e-bost - y-selar@live.co.uk. Mae modd i chi weld yr holl gategoriau fan hyn - http://www.y-selar.com/gwobraur-selar/gwobraur-selar-2012

Dim ond unwaith rydach chi'n cael pleidleisio felly meddyliwch yn ofalus cyn dewis eich enillwyr! 

Cofiwch ein bod ni'n bwriadu cynnal Noson Wobrwyo arbennig eleni - newyddion am hyn i ddilyn dros y dyddiau nesaf...