Search site


EP Casi Wyn allan dydd Llun

11/04/2013 21:12

Newyddion da! Wedi hir ymaros bydd EP cyntaf y gantores Casi Wyn yn cael ei ryddhau ar label I Ka Ching ddydd Llun nesaf (15 Ebrill). 

Enw'r EP ydy '1', ac mae allan ar ffurf CD ac i'w lawr lwytho'n ddigidol o itunes, amazon a spotify. 

Mae cyfle i chi wrando ar un o'r traciau cyn prynu - gallwch glywed y gân 'Winter' ar wefan I Ka Ching