Search site


Dyddiad rhyddhau albwm Gwenno

08/10/2014 21:27

Newyddion hynod o gyffrous wedi cyrraedd tyrau Selar dros nos, sef mai 27 Hydref ydy dyddiad rhyddhau albwm hirddisgwyliedig Gwenno.

Y Dydd Olaf ydy enw'r albwm sy'n cael ei ddisgrifio fel albwm 'wleidyddol gysyniadol'. 

Mae'r record yn dwyn dylanwad o nofel ffuglen wyddonol Owain Owain o 1976, ac yn rhannu enw â'r gyfrol.

Mae Gwenno'n plethu llu o themau i'r record sy'n gyfan gwbl Gymraeg heblaw am un trac mae'n canu'n Gernyweg. 

Bydd Y Dydd Olaf yn cael ei ryddhau gan label Peski, a hynny ar fformat digidol, CD nifer cyfyngedig a record feinyl 12 modfedd ... mmm, lyfi!