Cyhoeddi enwau bandiau cyntaf Gwobrau’r Selar

Mae enwau’r artistiaid cyntaf fydd yn perfformio yng Nghwobrau’r Selar eleni wedi’i cyhoeddi.

Y pump enw sydd wedi eu henwi ydy:

Ffracas – un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y foment, a ryddhaodd eu cynnyrch cyntaf ar ffurf yr EP Niwl yn ystod 2016.

Chroma – enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 ac yr Eisteddfod Genedlaethol a ryddhaodd eu cynnyrch cyntaf hwythau yn 2016.

Cpt Smith – y grŵp pync gwych o Gaerfyrddin a ddaeth i amlygrwydd yn 2015, ac a ryddhaodd yr EP ardderchog, Propeller, yn Nhachwedd 2016.

CaStLeS – un o grwpiau mwyaf arbrofol a diddorol Cymru ar hyn o bryd, sydd yn rhan o gynllun Gorwelion ac y ryddhaodd eu halbwm cyntaf, Fforesteering ym mis Tachwedd.

Candelas – y cewri o Lanuwchllyn sy’n un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru ers rhai blynyddoedd. Blwyddyn gofiadwy arall diolch i’w cyfyr gwych o ‘Rhedeg i Baris’, a hedleinio gig mwyaf cofiadwy 2016 ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Bydd rhagor o enwau’n cael eu cyhoeddi cyn diwedd yr wythnoswrth i’r cyffro gynyddu ar gyfer y gig sy’n digwydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 18 Chwefror.

Mae pleidlais Gwobrau’r Selar wedi cau ers wythnos bellach, a dwy o’r rhestrau byr eisoes wedi’u cyhoeddi sef ‘Cân Orau’ a ‘Hyrwyddwr Gorau’.

Bydd dwy restr arall yn cael eu cyhoeddi nos Fercher yma – cofiwch wrando ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru a dilyn ffrydiau cyfryngau Y Selar.

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth nawr

  • Siop Inc, Aberystwyth
  • Palas Print, Caernarfon
  • Awen Meirion, Y Bala
  • Swyddfa UMCA, Aberystwyth
  • Llên Llŷn, Pwllheli
  • Caban, Caerdydd

Neu gallwch archebu arlein nawr.