Cyhoeddi arlwy gerddorol Tafwyl 2017

Mae Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi eu lein-yp cerddorol ar gyfer y digwyddiad eleni.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Gaeau Llandaf am y tro cyntaf, a hynny ar 1-2 Gorffennaf ac mae’r lein-yp yn un trawiadol.

Ymysg yr enwau cerddorol sy’n dod â dŵr i’r dannedd mae Geraint Jarman, Candelas, Yws Gwynedd ac Y Niwl.

Fe fydd Bryn Fôn, Heather Jones, Meic Stevens, Kizzy Crawford a The Gentle Good hefyd ymysg yr enwau amlwg sy’n perfformio yn y brifddinas dros y penwythnos.

Atgyfodiad Reu

Mae nifer o lwyfannau a gweithgareddau dros y penwythnos, ac ymysg y mwyaf diddorol ym marn Y Selar mae’r newyddion bod Gareth Potter a Mark Lugg o’r grŵp Tŷ Gwydr yn atgyfodi ‘REU’.

Os borwch chi nôl trwy rifyn Mehefin 2012 o’r Selar fe welwch chi beth o hanes ffenomena Reu ar dudalennau 19 1 20, gan gynnwys noson enfawr ‘Claddu Reu’ yn Steddfod Aberystwyth nôl yn Awst 1992

Mae’n debyg ei bod yn briodol i nodi chwarter canrif ers hynny eleni, a bydd Lugg a Potter yn gwneud hynny gyda dathliad o gerddoriaeth electronig Cymraeg yn Tafwyl.

Bydd cerddoriaeth werin yn cael tipyn o sylw ar y dydd Sul; hefyd, wrth I Trac a Chwperdd Nansi guradu prynhawn gwerin.

Dyma restr lawn o’r artistiaid sy’n perfformio: Yws Gwynedd • Geraint Jarman • Bryn Fôn • Y Niwl • Candelas • HMS Morris • Alys Williams • Cowbois Rhos Botwnnog • Cpt Smith • Meic Stevens • The Gentle Good • Omaloma • Brython Shag • Aled Rheon • Geraint Lovgreen A’r Enw Da • Cadno • Ani Glass • Plu • Kizzy Crawford • Heather Jones • Iwan Huws • ARGRPH • Welsh Whisperer • Alun Tan Lan • Danielle Lewis • Hyll • Bethany Celyn • Eady Crawford • Mellt • Mabli Tudur • Cwpwrdd Nansi • Brigyn • Big Fish Little Fish • Y Gerddorfa Ukulele • REU25 •DJ Elan Evans • DJ Gareth Potter • Syr Carl Morris • Dilys • Ian Cottrell