Search site


Cloddio Unterdach – Rhyddhau sengl newydd R. Seiliog

12/10/2016 22:46

Mae newyddion gwych wedi cyrraedd clustiau Y Selar - mae’r cerddor electroneg seicadelig gwych o Ddinbych, R. Seiliog wedi rhyddhau ei sengl newydd 'Cloddio Unterdach' heddiw, 12 Hydref.

Mae’r sengl ar gael i’w lawr lwytho ar lwyfannau digidol o heddiw ymlaen, ac yn damaid i aros pryd nes bydd R. Seiliog, neu Robin Edwards i ddefnyddio ei enw pasport, yn rhyddhau eu EP newydd, Shedhead, ar 18 Tachwedd.  

Rydan ni’n hoff iawn o sengl ‘Cloddio Unterdach’, ac mae’n ddatblygiad pellach o’r sŵn dyfodolaidd unigryw mae R. Seiliog yn llwyddo i’w greu.  

Dyma hi i chi gael clywed dros eich hunain:

 

 

Casgliad amrywiol

Mae’r sengl, a’r EP, unwaith eto yn cael ei ryddhau gan label cynhyrchiol Turnstile Music yng Nghaerdydd.

Bydd 5 trac ar yr casgliad sydd allan fis nesaf, ac yn ôl Robin maen nhw’n ganeuon digon amrywiol

“Mae ‘na rywbeth i bawb, un gyflym, un araf, un hapus, un drist – ac un arall.

Shedhead fydd y record ddiweddaraf gan yr artist amgen i Beniel, ger Dinbych gan ddilyn ei EP cyntaf, Shuffles, yn 2012; ei albwm cyntaf, Doppler, yn 2013; ac yna ei ail albwm ardderchog, In Hz, a ryddhawyd yn 2014.

Mae Manic Street Preachers yn ffan o waith R. Seiliog, cymaint felly nes gofyn iddo wneud ail-gymysgiad o’u sengl ‘Futurology.

Rydan ni’n weddol siŵr bydd yr EP newydd yn werth aros amdano, ond yn y cyfamser beth am i chi fwynhau 'Cloddio Unterdach':

Cofiwch bod R. Seiliog yn perfformio fel rhan o daith Make Noise sy’n dechrau nos Wener yma, ac yn ymweld â’r lleoliadau canlynol…


14 Hydref – Y Parot, Caerfyrddin

21 Hydref - Le Pub, Casnewydd

22 Hydref – Gŵyl Sŵn, Caerdydd

12 Tachwedd – Rummers, Aberystwyth

25 Tachwedd - Clwb Y Bont, Pontypridd