Search site


Bromas ar daith

15/07/2014 13:43

Yn ffresh o lwyddiant eu rhan allweddol yng nghynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr ieuenctid yr Urdd, Cysgu'n Brysur, ar ddechrau'r mis, mae'n argoeli i fod yn bythefnos prysur ar ddiwedd mis Gorffennaf i Bromas hefyd. 

Mae'r grŵp cyffrous o Sir Gâr wedi cyhoeddi eu taith haf gydag Y Cledrau. Bydd y gyfres o gigs yn dechrau yng Nghlwb Ifor Bach nos Iau yma (17 Gorffennaf) ac yn ymweld ag wyth o leoliadau gan orffen yn Y Bala ar nos Fercher 30 Gorffennaf. 

Bydd Fleur de Lys a Tymbal yn ymddangos yn rhai o'r gigs hefyd. 

Mae teithiau haf wedi dod yn bethau poblogaidd ymysg bandiau cyfoes Cymraeg, gyda thaith haf Y Bandana ac Y Ffug yn dirwyn i ben nos Sadwrn, a Sŵnami, Candelas ac Yr Eira yn cynllunio taith ddiwedd mis Awst.

Dyma fanylion y daith yn y trydar isod.