Search site


Amserlen llwyfan Gwobrau'r Selar

12/02/2014 09:54

Rydan ni'n falch iawn i ddatgelu'r amserlen llwyfan ar gyfar Gwobrau'r Selar wrth i'r cyffro ynglŷn â'r noson fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gynyddu. 

Mae'r digwyddiad yn agor am 5pm gyda sesiynau acwstig yn y 'Stiwdio' sydd ar lawr uchaf Canolfan y Celfyddydau (wrth ymyl Theatr y Werin). Casi Wyn fydd yn agor yr arlwy cyn i Gildas a Kizzy Crawford berfformio. Cofiwch hefyd am set DJ cyntaf erioed Gramcon fydd yn digwydd rhwng yr artistiaid. 

Yna, am 8pm bydd y gerddoriaeth yn symud i'r Neuadd Fawr, sydd ar brif lawr y ganolfan. Yr Eira fydd yn agor y llwyfan ac Yr Ods fydd yn cloi. Bydd y gwobrau'r cael eu cyflwyno rhwng y bandiau, gyda Crash.Disco! yn llenwi pob bwlch gyda'i synau swynol. Yr Ods fydd yn cloi y digwyddiad, a'r cyfan yn dod i ben tua 1am. 

Dyma'r amserlen lawn isod - mae'n mynd i fod yn un dda ffrindiau. 

 

Amserlen Gwobrau'r Selar 

5:00-8:00 - Stiwdio Canolfan y Celfyddydau
5:20 - Casi Wyn
6:20 - Gildas
7:20 - Kizzy Meriel Crawford
* Gramcon DJ set rhwng artistiaid
 
8:00 - 1:00 - Neuadd Fawr
8:10 - Yr Eira
9:00 - Bromas
9:50 - Sŵnami
11:00 – Candelas
12:15 - Yr Ods
* Cyflwyno Gwobrau a Crash.Disco DJ set rhwng bandiau