Search site


Albyms Geraint Jarman

17/02/2017 18:31

Onibai eich bod wedi bod yn cysgu dan garreg ers rhyw fis, byddwch yn gwybod bod Y Selar yn dathlu’r cyfraniad enfawr Geraint Jarman i gerddoriaeth Gymraeg y penwythnos hwn. Fel rhan o ddigwyddiadau Gwobrau’r Selar, fe fydd yn perfformio mewn gig yn Neuadd Pantycelyn heno (17 Chwefror) wrth i ni gyflwyno gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar i’r cerddor.

Dros y dyddiau diwethaf rydym wedi bod yn gofyn i bobl bleidleisio dros eu hoff gân Geraint Jarman, a cyhoeddwyd y canlyniad ar ffurf rhestr 10 Uchaf ddoe.

Ydy, mae’r cerddor wedi rhyddhau sawl anthem dros y blynyddoedd ond mae hefyd yn nodweddiadol am gyhoeddi albyms cofiadwy, sy’n gyfanweithiau cerddorol o bwys.

Fel rhan o gyfres o erthyglau’n talu teyrnged felly, fe benderfynom ni ofyn i dri o ffans mwyaf Jarman ddewis eu hoff albwm gan y cerddor...

Gorwel Roberts - Tawel yw’r Tymor

Geraint Jarman - athrylith mawr yr hanner can mlynedd diwethaf yng Nghymru ymhob cyfrwng. Mae yna gymaint o albyms hynod ac ardderchog – fy ffefryn am yn hir iawn oedd Fflamau’r Ddraig ac wrth gwrs mae honno’n rhan o driawd o wychder aruchel efo Hen Wlad Fy Nhadau a Gwesty Cymru sy’n uchelfannau dros yr SRG gyfan. 

Mae’n braf medru dewis Tawel yw’r Tymor.  Mae hon yn albwm hen ffasiwn yn yr ystyr orau – yn un i fyw efo hi a dod i’w hadnabod yn araf a’i mwynhau. Dywedodd adolygydd Y Selar fod yr elfen acwstig yn ‘sioc’ ond mewn ffordd dyw hi ddim mor wahanol â hynny i albyms eraill Jarman o ran mai Geraint yw Geraint ac un peth sy’n amlwg yw’r amrywiaeth a glywch chi ganddo bob tro.  Albwm acwstig gan Geraint Jarman yn syndod? Pam? Dechreuodd Geraint yn y 60au yn gwrando ar Bob Dylan (acwstig / electrig) ac yn sgwennu caneuon ar gyfer Meic Stevens a Heather Jones. Mae wedi cyd-sgwennu rhai o glasuron acwstig yr SRG. 

Dywedodd Geraint ers talwm maith yn ôl fod ‘Bourgeoise Roc’ yn gân arbrofol yn null y grŵp Television – ac mae’n bosib meddwl am bob cân Jarman yn y modd yna – math o arbrawf a gwthio ffiniau. Dyna be mae o’n ei neud. Dyna be sydd ar yr albwm yma.

Mae ‘Fi yw’r Ffŵl’ yn syml a theimladwy ac yn taflu goleuni personol ar ddarn o hanes mae pawb sy’n dilyn yr SRG yn gallu teimlo’n rhan ohono – canu pop y 60au, Y Bara Menyn, Stevens a Heather, Merêd (?) – cychwyn pob dim.  Cawn gip ar greadigrwydd y cyfansoddwr yn nghordiau agoriadol ‘Soltzenitzin’ a mandolin Gareth Bonello’n creu naws Rwsaidd; iodlo a chanu gwlad ar ‘Plîs Mr Parsons’, y gân deyrnged i Gram Parsons. Teyrnged arall yw ‘Cheb a Salif’ i Cheb Khaled a Salif Keita a chyfeiriad at yr imperialaeth sydd wedi rheibio eu gwledydd hwythau yn ogystal â’n gwlad fach ni.

Hyd yn oed ar albwm ‘acwstig’ mae Jarman yn llwyddo i ymestyn rhychwant ei ddawn a’i arddull mewn cân sy’n frith o ddylanwadau o ogledd Affrica. Gwych yw clywed llif hyfryd yr ymwybod yn ‘Porno Lladin’ sy’n creu darlun rhithiol o Sir Fôn fel math o collage gan yr artist, Kurt Schwitters, a’r cyfan yn ennyn rhyw awydd i wybod mwy am Soltzenitzin, Cheb a Salif, Gram, Schwitters ac ati a be sydd y tu ôl i’r geiriau – mae roc a rôl yn gallu bod yn addysg hefyd.  Gwthio’r ffiniau.

Dywedodd adolygydd Y Selar fod rhai o’r geiriau’n brin o synnwyr ond llawer cywirach yw dweud nad yw pob cân yn datgelu ei chyfrinachau ar y gwrandawiad cyntaf a da hynny. Mae natur y sain a’r cynhyrchu’n golygu ei bod yn gasgliad mwy dwys na lot o stwff Jarman.

Rhaid canmol y cerddorion, yn enwedig gitâr Gareth Bonello, a chynhyrchu ardderchog Frank Naughton. Roedd Brecwast Astronot yn albwm arbennig o dda, roedd Dwyn yr Hogyn Nôl yn well, ond mae hon yn well byth. 

(Sgwn i pwy gododd hiraeth ar Geraint yn ‘Helo Hiraeth’ a’i adael yn ddarnau mân yng Ngŵyl Rhif 6 – Tich Gwilym?)

 

Griff Lynch – Fflamau’r Ddraig

Mae Fflamau'r ddraig yn sefyll allan i mi fel Jarman ar dop ei gêm, wedi blaguro i'r eithaf.

 

Roedd y record yma’n gyfredol o ran sŵn, yn unrhyw iaith pan y ddaeth hi allan yn 1980, (a peth prin oedd i artist Cymraeg gyflawni hynny ar y pryd...) Mae'r albwm yn ymgorfforiad o holl ddylanwadau diwylliannol Geraint ar y pryd, o'r sin gerddorol Gymraeg, at ddylanwad Reggae Dociau Caerdydd.

 

Mae sŵn y cynhyrchu o'r safon uchaf, a ‘Cŵn Hela’ a ‘Cae'r Saeson’ yn ffefrynnau personol.

 

Dewi Prysor – Dwyn yr Hogyn Nôl / Hen Wlad fy Nhadau

Dwi ‘di cael ’y nghlymu mewn cadair. Yn sefyll o ’mlaen i mae golygydd Y Selar.

Mae o newydd fy mhistol-chwipio efo’r ukulele y mae o bellach yn ei ddal at fy nghlust.

Mae o’n mynnu mod i’n dewis fy hoff albwm gan Jarman. Joban anodd ar y gora. Ôl-gatlog llawn o glasuron tragwyddol, un ar ôl y llall? Cym on! Ga i gynnig rhestr fer, o leia? Ond ofer y protestio. Mae’r ukulele ’na’n hofran yn wrth ’y nghlust, a bysedd fy mhoenydiwr yn barod i strymio.

OK, OK, OK, dwi’n sgrechian, cyn cynnig cyfaddawd – dewis un albwm o oes aur y Cynganeddwyr ac un arall o ail-ddyfodiad diweddaraf Jarman.

Mae fy arteithiwr yn oedi. Mentraf gynnig Hen Wlad fy Nhadau fel ‘showcase’ – y glasur ymysg clasuron, yr albwm sy’n cyfleu be ydi Jarman, y bardd a’i fiwsig a’r holl elfennau sy’n rhan o’r hudoliaeth y bu’n ei greu...

Dwi’n synhwyro henshman y Selar yn ymlacio. Mae’n tynnu’i fysedd oddi ar ffrets yr ukulele. Dwi’n rhoi anadl o ryddhad, cyn datgan mai fy hoff albwm Jarman, erbyn heddiw, ydi Dwyn yr Hogyn Nôl.

Ers ei rhyddhau tydi hi byth wedi bod ymhell o fy stereo, a tydi un gwrandawiad byth yn ddigon – rhaid hitio ‘repeat’ bob tro. Mae hi’n albwm brydferth, efo’r un plethiad perffaith o reggae, roc ac ambell i faled; y rythmau a’r barddoniaeth a’r alawon yn gwneud i mi ddawnsio a chanu efo ’mreichiau yn yr awyr, llygid ar gau a dagrau gorfoledd ac emosiwn yn iro fy ngruddia wrth gael fy ngolchi i ffwrdd efo’i lli grymus, hyfryd, bendigedig.


Gâ i fynd rŵan, Mr Selar?