Search site


Albwm Gwenno allan heddiw

27/10/2014 22:00

Newyddion da o lawenydd mawr, mae albwm newydd Gwenno - Y Dydd Olaf - wedi'i ryddhau ar label Peski heddiw.

Mae'r record yn un wleidyddol sydd wedi'i ysbrydoli gan y nofel ffuglen wyddonol gan Owain Owain, sy'n rhannu enw'r albwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer ym 1976. 

Mae'r albwm ar gael yn ddigidol, ar CD, ac ar feinyl ac mae modd i chi archebu o wefan Peski rŵan.

Bydd Gwenno yn perfformio am y tro cyntaf erioed yn Aberystwyth yn gig O'r Selar ym Mar Canolfan y Celfyddydau ar nos Iau 27 Tachwedd.