Tocynnau Gwobrau’r Selar

Mae tocynnau penwythnos Gwobrau’r Selar ar werth nawr. Gallwch archebu ar-lein ar ôl i chi bleidleisio dros y Gwobrau.

Byddwn hefyd yn gwerthu tocynnau mewn rhai siopau penodol yn y man.

Ar hyn o bryd dim ond tocynnau penwythnos sydd ar werth. Mae’n debygol y byddwn yn rhyddhau tocynnau ar gyfer y nosweithiau unigol cyn y Nadolig, onibai fod y tocynnau penwythnos i gyd yn gwerthu yn y cyfamser.

 

*PWYSIG – nifer cyfyngedig o docynnau Gwobrau’r Selar sydd ar gael eleni. Dim ond 600 yr un ar gyfer y ddwy noson. Mae dros 1100 wedi dod i Wobrau’r Selar ym mhob un o’r tair blynedd ddiwethaf, ac mae disgwyl i’r galw fod yn uchel eto eleni felly peidiwch oedi cyn bachu eich tocyn.